01286 674847 Ebost Adran DdiogelEnglish
Croeso mawr i safle we ein Cyngor Ysgol yma yn Ysgol y Gelli.

Rydym yn griw o aelodau brwd sydd a’r frait o gynrychioli ein dosbarthiadau. Rydym yma i gefnogi yr ysgol drwy leisio barn neu safbwyntiau ac i gynnig syniadau ar sut allwn wneud newidiadau er lles yr ysgol. Rydym yn cwrdd bob tair wythnos i drafod digwyddiadau a newidiadau ysgol. Mae gennym ni rôl bwysig iawn i’w chwarae gan ein bod hefyd yn gorfod adrodd yn ôl i’n dosbarthiadau ac ysgol gyfan ar ôl y cyfarfodydd. Ar adegau bydd y Cyngor Ysgol hefyd yn trafod elfennau o fywyd ysgol gydag ymwelwyr.
Cofiwch
Gall unrhyw un ohonoch siarad ag unrhyw un ohonom ar unrhyw adeg i roi gwybod i ni os oes gennych bryder am rywbeth yn yr ysgol neu hyd yn oed os oes gennych syniad gwych yr hoffech eu rannu!
Diolch Ffrindiau

Datganiad Preifatrwydd
© Hawlfraint 2025 - Ysgol y Gelli - Gwefan gan Delwedd