01286 674847 Ebost Adran DdiogelEnglish
02/07/25 - Cor ysgol y Gelli
Dyma fraint oedd derbyn y feirniadaeth ardderchog yma am berfformiad y cor yn Eisteddfod Gendlaethol Dur a Mor 2025.
23/06/25 - Twm a Bleddyn
Llongyfarchiadau I Bleddyn a Twm am ysgrifennu ac argraffu llyfr - awduron y dyfodol
20/06/25 - Gornest Lyfrau
Llongyfarchiadau i grwp Blwyddyn 6 a enillodd yn gystadleuaeth ysgrifennu broliant llyfr dros Gymru yng nghystadleuaeth Gornest Lyfrau yn Aberystwyth
20/06/25 - Enillwyr Stem
Llongyfarchiadau mawr i'r grwp buddugol yng nghystadleuaeth STEM gan M-SPARC. Bydd y grwp yn cystadlu yn y rownd derfynol yng Nghanolfan Gwyddoniaeth M-SPARC ger Llangefi wythnos nesaf. Pob lwc.
20/06/25 Cystadleuaeth STEM gyda M-SPARC.
Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd rhan yng nghystadleuaeth STEM gyda M-SPARC. Profiad Gwyddonol diddorol iawn
19/06/25 - Plant Blwyddyn 2 yn cartref Bryn Seiont
Plant Blwyddyn 2 wedi mwynhau gweithdy Celf gyda thrigolion cartref Bryn Seiont
18/06/25 - Cystadleuaeth Gornest Lyfrau yn Aberystwyth
Pob hwyl i'r criw sydd yn cynrychioli Gwynedd yn y rownd derfynol cystadleuaeth Gornest Lyfrau yn Aberystwyth heddiw.
16/06/25 Llythyr Canmol
Rydym wedi derbyn e-bost hyfryd gan aelod o'r cyhoedd a oedd yn mynychu digwyddiad yn y Senedd ar yr un diwrnod â'ch ymweliad addysgol (22 Mai), ac roeddem am rannu'r adborth gwych gyda chi a’ch disgyblion:
Llythyr Canmol (PDF)
15/07/25 Te Parti'r Haf - Bwydlen amser cinio
12/06/25 Blwyddyn 6 wedi dechrau 4 diwrnod o ymholiadau Gwyddoniaeth ar Egni drwy gynllun M-SPARC.
12/06/25 Blwyddyn 3 a 6 wedi mwynhau sesiwn ddawns gyda cyn-ddisgybl o'r ysgol Awen Pritchard.
09/06/25 Diolch i Sbarduno am noson Wyddonol gyffroes. Llongyfarchiadau i'r tri tim buddugol.
05/06/25 Twrnamnent Ken Jones
Llongyfarchiadau i dim peldroed yr ysgol a ddaeth yn fuddugol yn nhwrnament Cwpan Ken yn ysgol Syr Hugh Owen.
04/06/25 Canlyniadau cystadlaethau Celf yr Urdd Eisteddfod Dur a Mor 2025
Llongyfarchiadau i Gruff Roberts, Nansi Jones, Syfi Griffiths am eu llwyddiant yng nghystadlaethau Celf yr Urdd Eisteddfod Dur a Mor 2025
04/06/25 Awen Pritchard yn ymweld â phlant Blwyddyn 4
Diolch i Awen Pritchard am rhoi gweithdy dawns cyffrous i blant Blwyddyn 4
03/06/25 Fideos Eisteddfod 2025
Parti Cerdd Dant
Deuawd
Band y Gelli
Cor
Can Actol
30.05.25 Llongyfarchiadau i Fand y Gelli
Llongyfarchiadau i Fand y Gelli am ddod yn ail yng Nghystadleuaeth Band/Cerddorfa Offerynnol Eisteddfod Dur a Mor.
30.05.25 Llogyfarchiadau i bawb fu'n cystadlu yn Eisteddfod Dur a Mor
Megan Williams - Unawd Chwythbrennau
Owain Wyn - Unawd Llinynnol
Beca Glyn a Cara Bebb - Deuawd
30.05.25 Llongyfarchiadau enfawr i Gruff Iwan a Owain Iago
Llongyfarchiadau enfawr i Gruff Iwan a Owain Iago am ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth deuawd cerdd dant yn Eisteddfod Dur a Mor.
30.05.25 Llongyfarchiadau i Adran Tref y Gelli
Llongyfarchiadau i Adran Tref y Gelli am ddod yn ail yng nghystadleuaeth Can Actol. Hefyd llongyfacrhiadau i bawbyn yr Adran a fu'n cystadlu ac i'r hyfforddwyr talentog sydd wedi gweithio'n galed yn hyfforddi a rhoi profiadau gwerthfawr i'r plant.
30.05.25 Llongyfarchiadau mawr
Llongyfarchiadau mawr iawn i gor ysgol y Gelli am ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth cor ysgolion dros 150 o blant yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Mor.
Agorwyd reid yn y ffair yn benodol ar gyfer plant yr ysgol a Mrs Roberts gael dathlu
27.05.25 Cylchlythyr Mai 2025
Cylchlythyr Mai (PDF)
22.05.25 Pawb yn mwynhau Bowlio 10
22.05.25 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth yn Senedd Cymru
22.05.25 Gwyddoniaeth yn Techniquest
21/05/25 Plant yn bwyta Brecwast
Brecwast blasus yn barod am ddiwrnod prysur
21/05/25 Plant yn bwyta Hufen Ia
Pawb yn mwynhau hufen ia yn yr haul yng Nghaerdydd
21/05/25 Plant yn cael McDonalds
Pawb wedi mwynhau McDonalds ar y ffordd i Gaerdydd
19/05/25 Cystadleuaeth Celf yr Urdd
Llongyfarchiadau i bawb a fu'n cystadlu yng nghystadleuaeth Celf yr Urdd.
19/05/25 Plant Blwyddyn 6 yn cael Hufen Ia
Diolch i blant gwych y Gelli am fod mor arbennig
12/05/25 Orsaf Dywydd Ddigidol
Bellach mae'r Orsaf Dywydd Ddigidol i fyny a'r Pwyllgor ECO yn dechrau dehongli'r data.
12/05/25 Diolch o galon i'r gwirfoddolwyr
Diolch o galon i'r gwirfoddolwyr ffeind am rhoi eu hamser i dacluso corneli o'r ysgol. Diolch yn fawr iawn.
12/05/25 Llongyfarchiadau mawr i Gweneira
Llongyfarchiadau mawr i Gweneira am ennill cystadleuaeth dylunio crys-T Diwrnod y Llyfr. Hefyd, ennillodd casgliad o lyfrau i'r ysgol.
09.05.25 Fideo Hwyl Dros yr Aber Gwyl Fwyd Caernarfon
Diolch o galon i Mr. Davies a Phwyllgor Digidol Ysgol y Gelli am greu fideo gwych yn hyrwyddo ardal deuluol Dros yr Aber yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon.
07.05.25 Garddio
Diolch i'r Pwyllgor ECO am harddu blaen yr ysgol
06.05.25 Elin Brychan
Mae'n bob amser yn fraint cael croesawu cyn ddisgyblion yn ol i'r ysgol - cafodd plant Blwyddyn 4 a 6 gyflwyniad gwych gan Elin Brychan a ddaeth i drafod ei rol fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
06.05.25 Enillwyr Gornest Lyfrau
Llongyfarchiadau enfawr i' ddau dim o'r ysgol a fu'n cystadlu yng nghystadleuaeth Gornest Lyfrau . Cafodd tim Blwyddyn 4 glod anferthol gan yr achredwr a rhoddwyd y wobr gyntaf i dim Blwyddyn 6. Caiff tim Blwyddyn 6 y fraint o gynrychioli Gwynedd yn y grownd derfynnol yn Aberystwyth.
29.04.25 Cystadleuaeth Rygbi Tag yr Urdd
Genethod Blwyddyn 5 a 6 wedi mwynhau cystadlu yng Nghystadleuaeth Rygbi Tag yr Urdd ar gae Rygbi Morfa Caernarfon
14.04.25 Storiau Byrion
Rydym mor falch o lwyddiant Mared a Jessica sydd wedi cael cyhoeddi eu storiau byrion mewn llyfr o'r enw The Magical Map.
14.04.25 Gwasanaeth Arbennig
Dyma ddiweddglo gwych i'r tymor sef gwasanaeth arbennig gan blant dosnarth Meithrin a Derbyn i'w rhieni.
14.04.25 Plannu llysiau
Wedi plannu mwy o lysiau fel betys, pys, ffa, cennin a nionod. Gobeithio'r gorau.
14.04.25 Cystadleuaeth Creu Poster
Diolch i'r Pwyllgor ECO am drefnu cystadleuaeth creu poster i hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu. Wyau Pasg mawr blasus i'r enillwyr.
14.04.25 Cylchlythyr Ebrill
Cylchlythyr Ebrill 2025 (pdf)
11.04.25 Wythnos Stroliwch a Rholiwch
Diolch i bawb a fu'n cerdded, sgwtera neu feicio i'r ysgol yn ystod wythnos Stroliwch a Rholiwch.
10.04.25 Cystadleuaeth darllen Gormest Lyfrau
Pob lwc i'r ddau dim o ddarllenwyr a gymrodd rhan yng nghystadleuaeth darllen Gormest Lyfrau
10.04.25 Parti 60au Blwyddyn 3
Fel rhan o'u gwaith thema, cafodd Bl 3 barti 60au gan fwynhau y bwydydd ,gemau a cherddoriaeth o'r cyfnod
09.04.25 Bingo Pasg
Diolch i bawb a gefnogodd Bingo Pasg a diolch o galon i Gyfeillion y Gelli am drefnu noson gymdeithasol hwyliog braf.
04.04.25 Grwp arall o ddisgyblion yn cael y fraint o wneud gwaith celf gyda thrigolion Bryn Seiont
04.04.25 Plant Blwyddyn 6 wedi mwynhau Gwyl Rygbi yn ysgol Syr Hugh Owen
03.04.25 Senedd Cymru
Diolch i Ann Williams, Swyddog Addysg Senedd Cymru a ddaeth i rhoi addysg ar Wleidyddiaeth i Blant Blwyddyn 4
03.04.25 Mae'r tatws yn y pridd
31.03.25 Y tir bron yn barod i blannu tatws
27.03.25 Cystadleuaeth Llunio Poster
Llongyfarchiadau i'r plant a enillodd wy Pasg yng nghystadleuaeth llunio poster i annog y plant i leihau amser o flaen sgrin digidol. Diolch i'r Pwyllgor digidol am drefnu.
26.03.25 Plant Blwyddyn 1 a 2 yn mhriodas Branwen a Matholwch
Plant Blwyddyn 1 a 2 wedi cael diwrnod bendigedig ym mhriodas Branwen a Matholwch o'r Mabinogion yng Nghapel Salem. Diolch i'r Parchedig Mererid Outram am wasanaethu'r briodas.
26.03.25 Plant Pendalar yn dod at blant Blwyddyn 6
Braf oedd gweld plant Pendalar yn dod at blant Blwyddyn 6 i gyd-ganu, chwarae gemau a sgwrsio.
24.03.25 Bryn Seiont
24.03.25 Diwrnod Trwyn Coch
21.03.25 Blwyddyn 6 wedi dechrau paratoi y tir ar gyfer tyfu llysiau
19.03.25 - Cystadleuaeth chwaraeon Aviva Sportshall
Diolch i'r criw a fu'n cynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth chwaraeon Aviva Sportshall ym Mhlas Silyn, Penygroes heddiw.
18.03.25 - Blwyddyn 4 yn helpu swyddogion Banc Bwyd
Bu Blwyddyn 4 yn helpu swyddogion Banc Bwyd heddiw fel rhan o'u thema gofalu yn y gymuned. Diolch yn fawr am y croeso.
17.03.25 - Maer Dewi yn ymweld â'r ysgol
Daeth y Maer Dewi draw i'r ysgol i egluro ei ddyleswyddau fel Maer y Dref. Braf croesawu cyn-ddisgybl yn ol i'r ysgol.
13.03.25 - Tim rygbi'r ysgol yn nhwrnament yr Urdd
Llongyfarchiadau i dim rygbi'r ysgol am gystadlu yn nhwrnament yr Urdd ac am ennill 4 gem a cholli dim ond un gem. Da iawn chi hogiau.
12.03.25 - Arimia Williams yn cynrychioli tim tenis Gogledd Cyrmu
Llongyfarchiadau mawr iawn i Arimia Williams am ei llwddiant yn cynrychioli tim tenis Gogledd Cyrmu yn erbyn siroedd Derby, Gaer ac Ynys Manaw ar y 9fed o Fawrth. Enillodd 5 gem allan o 6.
Rydym yn hynod o falch o'i thalent arbennig. Hi yw chwaraewr rhif 1 yn y Sir.
Dwi'n siwr fod Wimbeldon ar y gorwel.
10.03.25 - Eisteddfod Cylch yr Urdd 2025
Canlyniadau Eisteddfod Cylch yr Urdd 2025
07.03.25 - Steddfod Bach
07.03.25 - Gwasanaeth ar bwysigrwydd cyfeillgarwch gan Griw Stori'r Beibl
06.03.25 - Diwrnod y Llyfr Blwyddyn 6
07.03.25 - Llongyfarchiadau mawr i nofwyr Ysgol y Gelli a ddaeth yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Nofio Ysgolion heddiw.
06.03.25 - Diwrnod y Llyfr 2025
Cael hwyl yn gwisgo fel hoff gymeriad o lyfr i ddathlu diwrnod y llyfr.
Dosbarth Meithrin
Dosbarth Derbyn
Blwyddyn 1 a 5
Blwyddyn 3
Blwyddyn 4
05.03.25 - Diolch i Gapel Salem am y croeso cynnes
04.03.25 - Mae llun o weledigaeth gytunedig yr ysgol wedi ei gorffen ac yn harddu wal y neuadd. Diolch i Anti Gill, Miss Amanda a phawb fu'n cyfrannu
24.02.25 - Cylchlythyr Chwefror
Cylchlythyr Chwefror 2025 (pdf)
24.02.25 - Gorymdaith Gwyl Ddewi
Blwyddyn 5 a 6 yn brysur yn paratoi hetiau ar gyfer Gorymdaith Gwyl Ddewi yng Nghaernarfon ar y 1af o Fawrth.
24.02.25 - Gwasanaeth Gwyl Ddewi
Gwasanaeth Gwyl Ddewi gan Blwyddyn 1 a 2.
24.02.25 - Cyngor Digidol
Dymuna Cyngor Digidol yr ysgol ddiolch o galon i Gyfeillion y Gelli am y cyfraniad gwerthfawr tuag at brynu sgrin rhyngweithiol i'r Dosbarth Meithrin ac hefyd am adnewyddu y chromebooks a oedd wedi torri. Diolch iddynt hefyd am dalu costau teithio bws trip Blwyddyn 5 a 6 i lawr i Gaerdydd.
24.02.25 - Blwyddyn 6 yn coginio pei afal
Clwb ar ol Ysgol Y Gelli
£18 am 9 wythnos
Dyddiad: 06/03/25 - 22/05/25
Amser: 15:15 -16:00
Lleoliad: Ysgol y Gelli
18.02.25 - Sioe Mewn Cymeriad
Cafod plant Blwyddyn 4,5 a 6 sbardun diddorol i'w gwaith dosbarth ar bontydd drwy weld perfformiad Sioe Mewn Cymeriad a oedd yn adrodd hanes Thomas Telford.
17.02.25 - Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu'n cystadlu yn eisteddfod offerynnol yr Urdd 2025.
Mae ysgol y Gelli yn hynod falch o'ch doniau arbennig. Llongyfarchiadau arbennig i Megan Williams, Owain Wyn a Band yr ysgol am lwyddo i fynd ymlaen i'r Eisteddfod Genedlaethol. Diolch i Ms Rebeca Bateson am eu hyfforddi.
14.02.25 - Cawsom fore bendigedig dydd Gwener yn mwynhau talentau plant ysgol y Gelli
13.02.25 - Llongyfarchiadau i dim rygbi Blwyddyn 3 a 4 a fu'n cystadlu yng nghystadleuaeth Rygbi Tag yr Urdd.
07.02.25 - Astudio Priodweddau gyda Elinor Gray Williams
Plant Blwyddyn 4 wedi cael profiad o astudio priodweddau gwahanol ddefnyddiau gyda phensaer Elinor Gray Williams
07.02.25 - Diwrnod Miwsig Cymru
Cawsom fore arbennig yng nghwmni un o arwyr byd Pop Cymru sef Geraint Lovgreen ar ddiwrnod Miwsig Cymru.
07.02.25
Llongyfarchiadau i enillwyr cystadleuaeth creu poster Diogelwch ar y We a drefnwyd gan aelodau o Gyngor Digidol yr ysgol.
Mwynhewch eich wyau Pasg.
03.02.25
Llongyfarchiadau i Iwan Glyn a thîm pêl-droed Llanrug am ennill y gystadleuaeth Christmas Cup i blant o dan 10 oed yn Fflint.
03.02.25
Llongyfarchiadau i Jessica Craven a Mared Parry am ennill cystadleuaeth ysgrifennu stori fer Young Writers.
Storiau Jessica Craven a Mared Parry (pdf)
29.01.25 - Sesiwn gyda Robin Williams
Sesiwn STEM ar Dywydd gyda Robin Williams
29.01.25 - Sesiwn gyda PC Dylan Pritchard
Sesiwn ar Ddiogelwch gyda PC Dylan Pritchard
28.01.25 - Blwyddyn 6 yn chwarae pel-rwyd
Blwyddyn 6 wedi mwynhau gwenud ffrindiau newydd yng ngwyl pel-rwyd ysgol Syr Hugh Owen.
24.01.25 - Tim pêl-rwyd yn cystadlu yn yr Urdd
Diolch o galon i dim pêl-rwyd yr ysgol am gystadlu yng Nghystadleuaeth pêl-rwyd cymysg yr Urdd.
17.01.25 - Grwp Eco wedi llwyddo cael grant o £2,148.12
Llongyfarchiadau mawr i'r grwp ECO a lwyddodd i gael grant o £2,148.12 ar gyfer prynu gorsaf dywydd ddigidol i'r ysgol
17.01.25 - Grwp Eco yn paratoi bwyd adar
Dyma grwp ECO wedi paratoi bwyd i'r adar dros y Gaeaf
15.01.25 - Gwaith STEM
Dyma Blwyddyn 4 yn brysur yn adeiladu pontydd fel rhan o waith STEM
14.01.25 - Cyw yn ymweld a'r ysgol
Syrpreis bendigedig oedd gweld sioe Cyw yn ymweld a'r ysgol yn arbennig gweld cyn ddisgybl Cati Rhys
Datganiad Preifatrwydd
© Hawlfraint 2025 - Ysgol y Gelli - Gwefan gan Delwedd